Barack Obama a David Cameron
Fe fydd David Cameron a Barack Obama yn mynnu heddiw na fydd Prydain ac America yn ildio yn y frwydr yn erbyn eithafwyr Islamaidd IS, wrth iddyn nhw geisio sicrhau ymateb rhyngwladol i’r grŵp eithafol.

Dywedodd y Prif Weinidog ac Arlywydd yr Unol Daleithiau bod llofruddiaeth dau newyddiadurwr o America gan jihadydd gydag acen Saesneg, yn dystiolaeth bellach o’r eithafiaeth “gwenwynig” sy’n bygwth diogelwch cenedlaethol.

Wrth i arweinwyr byd ymgynnull yng Nghasnewydd ar gyfer cynhadledd Nato, mae David Cameron a Barack Obama wedi annog ei haelodau i wneud y gynghrair yn rhwydwaith diogelwch mwy effeithiol.

Mae’r fideo sy’n dangos dienyddiad Steven Sotloff yn awgrymu mai’r un eithafwr fu hefyd yn gyfrifol am lofruddio James Foley.

Mae’r Llywodraeth yn ystyried “pob opsiwn posib” i ddiogelu gwystl o Brydain sydd wedi cael ei fygwth gan filwriaethwr yn y fideo.

Mewn erthygl yn The Times mae’r Prif Weinidog a’r Arlywydd wedi dweud na fyddan nhw’n “ildio yn ein penderfyniad i wynebu IS.”

Mae David Cameron yn wynebu pwysau cynyddol i Brydain ymuno ag America mewn ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd IS.

Dywedodd cyn Ysgrifennydd Cymru Peter Hain wrth Newsnight ar BBC2 ei fod yn credu y byddai’r arweinydd Llafur Ed Miliband yn fodlon derbyn cynllun i weithredu’n filwrol yn erbyn IS “petai ymgynghoriad gydag ef a phetai’n gynllun rhesymol.”

Meddai: “Yr unig reswm pam mae IS wedi cael eu gwthio nôl yng Ngogledd Irac yw oherwydd yr ymosodiadau o’r awyr yno. Petai nhw’n cael eu gwthio allan o Iran fe fyddan nhw’n ail-ymgynnull yn Syria. Felly mae’n rhaid cynnwys llywodraeth Assad, a hefyd Iran a Saudi Arabia hefyd.”