Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwebu ar gyfer sawl gwobr yng ngwobrau un o brif gyhoeddiadau’r byd addysg.
Mae’r Times Higher Education (THE), sy’n dathlu deng mlynedd eleni, wedi cynnwys Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn.
Cafodd y brifysgol ei chynnwys ar y rhestr fer oherwydd ei ffigurau recriwtio arbennig, eu gwaith ar ddatblygu Campws y Bae, cydweithio gyda busnesau, mentrau chwaraeon megis Pencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC a chydweithio gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe.
Maen nhw hefyd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Ymgysylltu â Chyflogwyr ar sail eu gallu i “ddatblygu arweinyddiaeth gyda busnesau bach” ac am raglenni hyfforddi sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer anghenion y byd busnes.
Ym maes y Celfyddydau, maen nhw wedi cael eu cydnabod am eu Rhaglen Sgiliau Treftadaeth, wedi iddyn nhw drefnu gweithdai ar thema arbenigol a lleoliadau gwaith i fyfyrwyr.
‘Newyddion gwych’
Mae’r pedwerydd enwebiad ar gyfer Prosiect Ymchwil y Flwyddyn, wedi i’r hanesydd Dr David Turner gwblhau gwaith ar hanes anabledd.
Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Hilary Lappin-Scott: “Rwyf wrth fy modd gyda’r newyddion gwych hwn, sy’n cadarnhau bod llwyddiant cynyddol y Brifysgol yn dal i barhau.
“Daw hyn ond ychydig fisoedd ar ôl i ni ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn gan WhatUni ym mis Mai.
“Rydym hefyd wedi sgorio’n uchel iawn yn nhablau cynghrair proffil uchel fel y system graddau prifysgol fyd-eang QS Stars a ddyfarnodd Prifysgol Abertawe y radd 5 seren uchaf ar gyfer Rhyngwladoli, Dysgu, Cyfleusterau ac Ymgysylltu.
“Mae’r Brifysgol wedi parhau i godi ar y rhestr o’r 20 prifysgol orau’r Deyrnas Unedig o ran rhagolygon swyddi i raddedigion a boddhad myfyrwyr, ddau fesur sy’n arbennig o bwysig i fyfyrwyr.
“Mae’r gwobrau hyn yn fesur o’n perfformiad a’n henw da. Maent yn dangos bod Prifysgol Abertawe yn lle ardderchog i astudio ar gyfer myfyrwyr y DU, Ewropeaidd a rhyngwladol”.
‘Braint enfawr’
Dywedodd golygydd y Times Higher Education, John Gill: “Mae’r dathliad yn nodi degfed pen-blwydd Times Higher Education, 10 mlynedd lle mae addysg uwch wedi gweld newidiadau mawr ond sydd bob amser wedi ymateb i’r heriau y mae wedi ei hwynebu.
“Mae ein prifysgolion a’n colegau ymhlith y sefydliadau uchaf eu parch yn y wlad hon ac yn rhyngwladol, ac mae’n fraint enfawr bod THE wedi chwarae rhan yn dathlu eu llwyddiannau dros y ddegawd ddiwethaf”.