Cerbydau arfog ger gwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd
Mae Carwyn Jones wedi dweud bod Cymru’n barod i groesawu’r byd ar ddiwrnod cyntaf Uwch Gynhadledd NATO yng Nghasnewydd.
Bydd 5,500 o bobol, gan gynnwys arweinwyr dros 70 o wledydd, yn bresennol yng ngwesty’r Celtic Manor ar gyfer y gynhadledd ddeuddydd – y digwyddiad rhyngwladol mwyaf erioed yng Nghymru.
Ymhlith y rhai fydd yn bresennol mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama.
Bydd y bygythiad gan eithafwyr Islamaidd yn Syria ac Irac o dan y chwyddwydr yn ogystal a’r argyfwng yn yr Wcrain.
‘Disgleirio ar lwyfan y byd’
Yn ystod yr Uwch Gynhadledd, fe fydd cinio arbennig wedi’i threfnu gan Dywysog Charles, lle bydd gwledd o fwyd Cymreig ac arlwy o adloniant.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Dyma’r cyfarfod mwyaf erioed o arweinwyr rhyngwladol i’w gynnal yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n dechrau yn ein gwlad ni.
“Mae Uwchgynhadledd NATO Cymru yn foment gyffrous a hanesyddol i’n gwlad, ac rwy’n hyderus y byddwn ni’n disgleirio ar lwyfan y byd.
“Y dyddiau nesaf fydd ffrwyth misoedd o waith caled a pharatoi.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yr Heddlu, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a llawer mwy i sicrhau bod gennym y seilwaith, y trefniadau diogelwch a’r cymorth i wneud yr uwchgynhadledd yn llwyddiant.
“O’r cychwyn, rydyn ni wedi bachu ar bob cyfle i hyrwyddo rôl Cymru yn yr uwchgynhadledd, o arddangos y cynnyrch gorau o Gymru i dynnu sylw at ein tirlun hardd a’n harfordir prydferth fel lleoliadau twristiaeth gwych a hybu busnesau a phrifysgolion Cymru. Bydd hyn yn parhau dros y deuddydd nesaf a thu hwnt.
“Rydyn ni eisoes wedi dangos ein bod ni’n wlad a all gynnal digwyddiadau mawr fel y Cwpan Ryder, ond bydd tua 5,500 o bobl yn cyrraedd yng Nghymru dros y dyddiau nesaf; dyma’r prawf mwyaf eto ac rydyn ni’n barod.
“Mae’r Celtic Manor, lleoliad yr uwchgynhadledd, yn barod, yn ogystal â’r lleoliadau eraill a fydd yn croesawu cynrychiolwyr. Mae Cymru yn barod ac yn awyddus i groesawu ymwelwyr o bedwar ban byd a dangos iddyn nhw pam ein bod ni’n parhau i roi ein marc ar y byd, er ein bod ni ond yn wlad fach.”