Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cyrraedd Estonia er mwyn cynnal trafodaethau am yr argyfwng yn yr Wcráin.

Fe fydd Obama yn cwrdd ag arweinwyr y gwledydd Baltig cyn iddo deithio i Gasnewydd ar gyfer uwchgynhadledd Nato.

Mae disgwyl i Barack Obama a chynghreiriaid y Gorllewin gymeradwyo cynlluniau i anfon o leiaf 4,000 o filwyr ac offer milwr i Ddwyrain Ewrop.

Nid yw’r Wcrain yn aelod o Nato ond mae aelodau eraill yn Nwyrain a Chanolbarth Ewrop yn ofni cael eu targedu gan Rwsia.

Fe fydd Barack Obama yn cynnal cynhadledd newyddion gydag Arlywydd Estonia Toomas Hendrik Ilves cyn cynnal trafodaethau pellach am ddiogelwch gydag arweinwyr Latfia a Lithwania.

Dywed swyddogion y Tŷ Gwyn y bydd Barack Obama yn ceisio sicrhau’r arweinwyr y bydd yr Unol Daleithiau yn eu hamddiffyn petai ymosodiad arnyn nhw.