Cerbyd arfog
Oriau’n unig cyn cychwyn uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi ei bod yn arwyddo cytundeb gwerth £3.5 biliwn i brynu bron i 600 o gerbydau arfog newydd.

Dyma’r cytundeb fwyaf i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ei arwyddo ar gyfer cerbydau arfog ers mwy na 30 o flynyddoedd.

Bydd y cerbydau yn cael eu cynhyrchu gan General Dynamics yng Nghwm Derwen, ger Caerffili, a’r rhai cyntaf yn cael eu dosbarthu yn 2017. Bydd safle hyfforddi ac uned hedfan yn barod erbyn canol 2019.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron, a fydd yn teithio i’r gynhadledd yng Ngwesty’r Celtic Manoryng Nghasnewydd heddiw, y byddai’r cytundeb yn diogelu 1,300 o swyddi ledled Prydain ac yn cynnal 300 arall yng Nghymru.

Yn ystod y gynhadledd ddeuddydd, mae disgwyl i Brydain geisio perswadio gweddill y 28 gwlad sy’n aelodau o sefydliad milwrol NATO i gynyddu gwariant ar amddiffyn.

Mae disgwyl i arweinwyr byd, gan gynnwys Barack Obama, ddechrau cyrraedd Casnewydd o fewn yr oriau nesaf.