Mahmoud Abbas
Mae poblogrwydd y grŵp milwriaethus Hamas ymhlith Palestiniaid ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza wedi tyfu’n sylweddol yn dilyn y gwrthdaro gydag Israel, yn ôl arolwg barn newydd.
Mae’r arolwg, a gynhaliwyd gan Ganolfan Palestina ar gyfer Polisi ac Ymchwil Arolwg yn dangos y byddai 61% o’r Palestiniaid yn dewis arweinydd y grŵp milwriaethus, Ismail Haniyeh, fel Arlywydd petai etholiadau arlywyddol Palestina yn cael eu cynnal heddiw.
Dim ond 32% fyddai’n pleidleisio dros yr Arlywydd presennol, Mahmoud Abbas.
Mae’r gefnogaeth i Ismail Haniyeh yn nodi cynnydd amlwg o’i gymharu ag arolwg tebyg ym mis Mehefin a ganfu mai dim ond 41% o Balestiniaid oedd yn cefnogi arweinydd Hamas. Ar y pryd, roedd gan Mahmoud Abbas gefnogaeth o 53%.
Mae’r arolwg hefyd yn awgrymu bod y mwyafrif o Balestiniaid – 72% – yn cefnogi mabwysiadu dull arfog Hamas yn y Lan Orllewinol.
Dywedodd y ganolfan ymchwil mai dyma’r tro cyntaf ers wyth mlynedd i’r mwyafrif o Balestiniaid leisio cefnogaeth o’r fath i arweinydd Hamas. Ond, meddai, gallai poblogrwydd Hamas ostwng yn y misoedd nesaf, fel y gwnaeth yn dilyn gwrthdaro blaenorol rhwng Israel a Hamas.
Yn y cyfamser, mae Gweinidogion cabinet Israel wedi beirniadu’r Prif Weinidog Benjamin Netanyahu, gyda llawer yn dweud nad oedd wedi mynd yn ddigon pell i niwtraleiddio gallu Hamas i ymladd yn ystod y gwrthdaro.
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud nad yw’n fodlon ail-ddechrau trafodaethau heddwch gyda Mahmoud Abbas, gan ddweud y bydd yn rhaid iddo bellhau oddi wrth milwriaethwyr Hamas cyn i hynny ddigwydd.