Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Hywel Dda a meddyg teulu am “fethiannau difrifol” wrth drin dynes fu farw o strôc.

Mae wedi awgrymu y dylai’r Bwrdd Iechyd a’r meddyg teulu dalu £2,000 o iawndal ac ymddiheuro i ferch y ddynes.

Mewn adroddiad, dyfarnodd yr Ombwdsmon bod methiannau difrifol o ran y bwrdd iechyd a’r meddyg teulu wrth ddelio a’r claf, ac y byddai’r risg o strôc wedi ei leihau yn sylweddol pe bai hi wedi derbyn y cyffur warfarin yn hytrach nag asbirin ar bresgripsiwn.

Mynegwyd pryder hefyd ynglŷn â methiant rhai o weithwyr y Bwrdd Iechyd i hysbysu’r meddyg teulu am fuddion warfarin, ac am y ffaith na chafodd Mrs Y ei chyfeirio at yr Adran Strôc.

Er hynny, nid oedd yn medru dweud yn bendant y byddai warfarin wedi atal y strôc.

Argymhellion

Yn ogystal ag argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd a’r Meddyg Teulu ymddiheuro a thalu £1,000 yr un i ferch y ddynes, dywedodd yr Ombwdsmon y dylid cynnal arolwg o holl gleifion yn y feddygfa sydd yn dioddef o nam ar rythm y galon, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y feddyginiaeth gywir.

Fe wnaeth hefyd argymell y dylai’r Bwrdd Iechyd gyflwyno cofrestr o gleifion gyda chyflwr nam ar rythm y galon, a chynnal arolwg blynyddol o’r gofrestr.

Iawndal

Daw’r adroddiad wrth i’r BBC gyhoeddi bod byrddau iechyd ar draws Cymru wedi talu cyfanswm o £21.8 miliwn mewn iawndal i gleifion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru wedi talu £564,733.