Mae Heddlu Gogledd Cymru fu’n chwilio am ddeifiwr ar goll, wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ddarganfod oddi ar arfordir Ynys Lawd, Caergybi.

Daeth aelodau o dîm Chwilio Tanddwr yr Heddlu a’r Bad Achub o hyd i’r corff neithiwr mewn ardal sy’n cael ei adnabod fel ‘Abrahams Bosom’.

Dywedodd yr Arolygydd, Brian Kearney nad yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma ond credir mai corff y deifiwr, sy’n ddinesydd Ewropeaidd, a oedd ar goll ydyw.

Ychwanegodd: “Mae ymdrechion ar y gweill i hysbysu teulu’r dyn drwy’r Llysgenhadaeth Tramor.”

Mae’r crwner wedi’i hysbysu.

Daw’r cyhoeddiad ddeuddydd ar ôl i gorff deifiwr arall gael ei ddarganfod yn farw yn Chwarel Dorothea, Dyffryn Nantlle.