Cig oen
Bydd tua 1,500 o newyddiadurwyr o bedwar ban byd yn profi gwledd Gymreig nos Iau wrth iddyn nhw ymweld â’r wlad i ohebu ar Uwchgynhadledd NATO.
Bydd y wledd, sy’n cael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei chynnal yn Nhŷ Tredegar ger Casnewydd a bydd y gorau o “ddiwylliant, bwyd a diod” Cymru ar gael i’r gohebwyr yn y derbyniad.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei bod hi’n bwysig croesawu cyfryngau’r byd “yn yr un ffordd ag y byddem yn croesawu unrhyw ymwelwyr i’n gwlad, ond yn enwedig am ein bod eisiau iddynt adael gydag argraff gadarnhaol o’n gwlad.”
Y wledd
Bydd y newyddiadurwyr yn cael blasu bwyd o Gymru gyda thro modern, gan gynnwys cregyn gleision Bangor, cranc Sir Benfro, cocos Penclawdd a chawsiau Cymreig fel Perl Wen, Gorwydd Caerffili a Colliers cheddar.
Bydd Hybu Cig Cymru hefyd gyda chegin arddangos, ble bydd cig oen a chig eidion Cymreig yn cael ei baratoi a’i weini.
Bydd diodydd o bob rhan o Gymru hefyd yn cael eu gweini yn y wledd gan gynnwys dŵr Radnor Hills, Tŷ-Nant, Llanllŷr a Brecon Carreg a Decantae, te Paned Gymreig a wisgi Penderyn.
Bydd dewis helaeth o gwrw a seidr Cymreig hefyd ar gael gan fragwyr fel Brains, Hurns a’r Celt Experience, Lager Wrecsam a seidr Gwynt y Ddraig.
Bydd yr adloniant yn dod gan yr ensemble llinynnol Opera Cenedlaethol Cymru, y grŵp gwerin Mabon a chôr Nidus Plant o Went.
Argraff gadarnhaol
Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae presenoldeb cynifer o newyddiadurwyr o gynifer o wledydd yn rhoi cyfle i ni ddangos yr hyn mae Cymru yn ei olygu, pwy ydym ni a beth allwn ni ei wneud i grŵp gwybodus a dylanwadol o bobl er mwyn iddyn nhw allu adlewyrchu ble mae’r uwchgynhadledd yn cael ei gynnal i’r miliynau o gynulleidfaoedd yn eu gwledydd eu hunain.
“Ein nod yw rhoi argraff gadarnhaol o Gymru i’r cyfryngau sy’n teithio yma a bydd y derbyniad hwn yn allweddol wrth ein helpu i wneud hynny.”