Mae AC y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am wneud mwy i ddenu twristiaid tramor i Gymru.
Roedd Eluned Parrott yn siarad yn dilyn cyhoeddi ystadegau twristiaeth gan Lywodraeth Cymru oedd yn dangos bod llai na 1% o ymwelwyr sy’n dod i Gymru’n dod o du allan i’r DU.
Meddai Eluned Parrott nad yw Llywodraeth Cymru’n gwario digon ar hybu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid yn rhyngwladol.
‘Gwerthu’r’ wlad
Ychwanegodd bod Llywodraeth yr Alban yn gwario £47 miliwn y flwyddyn yn “gwerthu’r” wlad i’r byd tra bod Llywodraeth Cymru’n gwario £7miliwn.
Meddai Eluned Parrott: “Nid yw Cymru’n denu digon o ymwelwyr o dramor. Gyda Chaerdydd ddim ond dwy awr i ffwrdd o Lundain ar y trên, a Sir Benfro a Bannau Brycheiniog ddim llawer ymhellach, mae ’na gyfle clir i ni werthu ein hunain fel cyrchfan hygyrch a deniadol i dwristiaid tramor.
“Mae digwyddiadau fel Cwpan Ryder ac Uwchgynhadledd NATO yr wythnos hon yn rhoi Cymru ar y map. Nawr mae angen i ni sicrhau bod y rhai sydd wedi gweld Cymru ar y teledu, neu ddarllen amdanom ni yn y papurau newydd, yn dod i weld beth y gallwn ei gynnig.”