Stadiwm Andorra cyn y gwaith adnewyddu (llun: Dilema)
Mae FIFA wedi gohirio penderfyniad terfynol ar gae stadiwm cenedlaethol Andorra nes yfory, yn ôl adroddiadau o’r wlad.
Roedd disgwyl penderfyniad gan yr awdurdodau heddiw ynglŷn ag a oedd y cae artiffisial newydd yn ddigon da i gynnal gêm ragbrofol yn erbyn Cymru yr wythnos nesaf.
Mae Cymru i fod i deithio i’r wlad fechan rhwng Ffrainc a Sbaen ar 9 Medi ar gyfer eu gêm ragbrofol gyntaf yn Ewro 2016.
Codwyd amheuon yr wythnos diwethaf a fyddai’r gêm yn cael ei chwarae yn Andorra ar ôl i FIFA godi cwestiynau ynglŷn â safon y cae.
Ac mae’r ansicrwydd yn parhau i dros fil o gefnogwyr Cymru sydd yn bwriadu teithio i’r gêm, sydd yn anhapus tu hwnt fod FIFA wedi camu mewn mor hwyr i godi amheuon ynglŷn â’r lleoliad.
Gwaith adnewyddu
Mae Andorra wedi bod yn gwneud gwaith adnewyddu i’w stadiwm yn ddiweddar, gan gynnwys cynyddu’r nifer o seddi i 4,500 a gosod cae artiffisial 3G newydd yno.
Ond ar ôl archwilio’r cae newydd yr wythnos diwethaf fe fynnodd FIFA fod angen iddyn nhw wneud gwelliannau i’r arwyneb dros y penwythnos, neu ni fyddai’r gêm yn cael ei chynnal yno.
Byddai hynny’n golygu symud yr ornest ar fyr rybudd, mwy na thebyg i rywle yng nghyffiniau Barcelona yn Sbaen sydd rhyw ddwy awr a hanner i ffwrdd o Andorra.
Fe all hynny beri trafferthion mawr i gefnogwyr Cymru sydd wedi trefnu i aros yn Andorra neu Toulouse, dinas yn Ffrainc sydd hefyd ychydig oriau i ffwrdd, yn ogystal â’r rheiny sydd wedi trefnu bysus i’w cludo o Barcelona.