Adam Matthews
Adam Matthews yw’r trydydd chwaraewr i dynnu nôl o garfan Cymru i wynebu Andorra’r wythnos nesaf gydag anaf.
Cefnwr chwith Caerdydd Declan John sydd wedi’i alw i’r garfan yn ei le, gyda John yn symud fyny o’r criw dan-21.
Mae hynny’n gadael Chris Gunter fel y ffefryn clir i ddechrau fel cefnwr de yn erbyn Andorra ar 9 Medi, er y gallai Sam Ricketts neu Neil Taylor hefyd chwarae yn y safle hwnnw.
Matthews yw’r trydydd chwaraewr i dynnu nôl o’r garfan gydag anaf, gyda’r amddiffynnwr canol James Collins a’r ymosodwr Hal Robson-Kanu hefyd yn gorfod methu’r gêm.
Yn eu lle fe alwyd Paul Dummett o Newcastle a Jake Taylor o Reading.
Mae Cymru’n disgwyl clywed heddiw a fydd y gêm yn mynd yn ei blaen yn Andorra, wedi i FIFA ddyfarnu nad oedd cae artiffisial stadiwm genedlaethol y wlad yn ddigon da.
Petai hi’n cael ei symud fe fyddai’r gêm mwy na thebyg yn cael ei chwarae yng nghyffiniau Barcelona yn Sbaen.
Carfan Cymru:
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Kyle Letheren (Dundee), Owain Fôn Williams (Tranmere)
James Chester (Hull), Paul Dummett (Newcastle), Ben Davies (Tottenham), Chris Gunter (Reading), Declan John (Caerdydd), Sam Ricketts (Wolves), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe)
Joe Allen (Lerpwl), Emyr Huws (Wigan), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Nottingham Forest)
Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton), Tom Lawrence (Caerlŷr), Jake Taylor (Reading), George Williams (Fulham), Jonathan Williams (Crystal Palace)