Tom Lawrence
Mae Caerlŷr wedi cadarnhau eu bod wedi llwyddo i arwyddo Tom Lawrence o Manchester United funudau cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau neithiwr.
Llwyddodd y ddau glwb i ddod i gytundeb ar ffi o tua £1m, a chael Lawrence i basio prawf meddygol, cyn i amser redeg allan neithiwr.
Mae’r ymosodwr wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda’r clwb sydd newydd gael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair, ac mae’n gadael Man United ar ôl bod yno ers ei fod yn wyth oed.
Fe wnaeth Lawrence, sy’n 20 bellach, un ymddangosiad dros Man United y tymor diwethaf, mewn buddugoliaeth o 3-1 dros Hull pan oedd Ryan Giggs yn rheolwr dros dro.
Mae hefyd wedi’i gynnwys yng ngharfan ddiweddaraf Cymru ar gyfer eu gêm yn Andorra’r wythnos nesaf, ac fe allai ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.
Treuliodd gyfnodau ar fenthyg yn Carlisle yng Nghynghrair Un a Yeovil yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, ac ef fydd yr ail Gymro yng ngharfan Caerlŷr sydd eisoes ag Andy King.