Emyr Huws
Mae Man City wedi cadarnhau fod y Cymro Emyr Huws wedi arwyddo i Wigan yn barhaol.
Roedd Huws wedi bod ar fenthyg gyda Wigan yn y Bencampwriaeth ers dechrau’r tymor, ond fe synnodd llawer neithiwr wrth i’r newyddion ddod rhyw awr cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau na fyddai’n dychwelyd i’r Etihad.
Yn ôl adroddiadau mae Wigan wedi talu rhyw £3m am Huws, sydd wedi ennill dau gap dros Gymru ac sydd wedi’i gynnwys yn eu carfan ryngwladol ddiweddaraf.
Y disgwyl oedd y byddai’r llanc 20 oed ar fenthyg yn Stadiwm DW tan fis Ionawr, ond mae nawr wedi arwyddo cytundeb o bedair blynedd gyda Wigan.
Ers ymuno mae eisoes wedi sefydlu’i le yng nghanol cae tîm Wigan, ac roedd yn un o’r sêr wrth iddyn nhw drechu Birmingham, ble treuliodd Huws gyfnod ar fenthyg y tymor diwethaf, 4-0 dros y penwythnos.
Roedd Huws yn cael ei weld fel un o’r sêr mwyaf disglair yn academi ieuenctid Man City, ac fe fu’n gapten ar eu tîm dan-21 tra’r oedd dim ond yn 19 oed.