Mark Hudson
Mae Caerdydd wedi cadarnhau fod yr amddiffynnwr Bruno Ecuele Manga wedi arwyddo o FC Lorient, gyda’r gred fod y ffi amdano’n tua £5m.
Fe basiodd Manga’i brawf meddygol ddoe, ac ef yw’r ail amddiffynnwr i ymuno â Chaerdydd ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo wedi i Danny Gabbidon ddychwelyd i’r clwb.
Gyda dau enw newydd yn cyrraedd, doedd hi ddim yn syndod gweld Ole Gunnar Solskjaer yn caniatáu i’r capten Mark Hudson adael i arwyddo i Huddersfield.
Mae Manga wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Chaerdydd, a chyn symud roedd y gŵr 26 oed yn gapten ar Lorient.
Dechreuodd ei yrfa yn ei wlad enedigol, Gabon, cyn symud i Bordeaux yn Ffrainc yn 2006, gan chwarae hefyd i Angers SCO.
Anelu am ddyrchafiad
“Rwyf wedi dod i Gaerdydd er mwyn chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn fuan,” meddai Manga wrth iddo arwyddo.
“Fe siaradais gyda’r rheolwr oedd yn chwaraewr gwych yn y wlad hon. Mae ganddo uchelgais ac rwy’n rhannu’r uchelgais hwnnw.”
Dywedodd Solskjaer ei fod wrth ei fodd o fod wedi arwyddo’r amddiffynnwr, gan fod clybiau eraill wedi bod ar ei ôl hefyd.
Gyda Manga a Gabbidon yn cyrraedd i gryfhau’r amddiffyn, roedd yn golygu diwedd i gyfnod Mark Hudson o bum mlynedd gyda Chaerdydd.
Mae ef nawr wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Huddersfield, sydd hefyd yn y Bencampwriaeth.