Jose Canas
Mae’r Sbaenwr Jose Canas wedi gadael Abertawe ar ôl i’r clwb gytuno i’w ryddhau am ddim er mwyn iddo allu symud i Espanyol.

Symudodd y chwaraewr canol cae i Stadiwm Liberty’r haf diwethaf am ddim o Real Betis, gan chwarae 35 o weithiau’r tymor diwethaf.

Roedd disgwyl y byddai Canas yn gadael y clwb cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau, wrth i Garry Monk orffen siapio’i garfan.

Ac mae nawr wedi dychwelyd i Sbaen, ar ôl tymor ble’r roedd, ar y cyfan, ddim ond yn ddewis cyntaf yng ngemau cwpan Abertawe.

Mae’n ymuno â Michu, Pablo Hernandez, Jordi Amat a Chico Flores ymysg y Sbaenwyr sydd wedi gadael Abertawe dros y misoedd diwethaf.