Mae un o rasys seiclo anoddaf Ewrop, sy’n gofyn i gystadleuwyr seiclo 226 milltir a dringo bron i 4000 o droedfeddi yn Eryri mewn llai na 18 awr, wedi gwerthu allan ar ei ddiwrnod cyntaf o gasglu enwau.
Mae’r Etape Xtrem yn cael ei drefnu gan y cwmni awyr agored o ogledd Cymru, Camu i’r Copa, ac yn rhan o gyfres yr Etape Eryri.
Bydd yn cyfuno tri llwybr y gyfres, sef yr Etape Bach (47 milltir), Canol (76 milltir) a Mawr (103 milltir).
Hon yw’r flwyddyn gyntaf i’r Etape Xtrem gael ei chynnal, ac mae’n dilyn llwyddiant y cwmni i ddenu bron i 1,200 o seiclwyr, gan gynnwys yr hyfforddwr Syr Dave Brailsford, i’w digwyddiadau yn y blynyddoedd diwethaf.
100 o seiclwyr oedd yn medru cofrestru ar gyfer y sportif – sef her feicio – ac fe fyddan nhw’n cychwyn o Faes Caernarfon am 4:00 y bore, 21 Mehefin 2015.
“Mae’n mynd i fod yn anhygoel,” meddai un o drefnwyr Camu i’r Copa, Rob Samuel.
“Roedd cael dros 400 o bobol hefo diddordeb yn y ras yn wych. Roedd ganddom ni syniad y byddai’n ddigwyddiad poblogaidd, ond doedden ni ddim yn disgwyl hyn.”