Danny Gabbidon
Mae disgwyl i Gaerdydd gadarnhau yn yr oriau nesaf fod yr amddiffynnwr Danny Gabbidon yn ailymuno â’r clwb ble treuliodd bum mlynedd.

Bu Gabbidon, sydd bellach yn 35 oed, yn ymarfer â charfan Caerdydd dros yr haf, ar ôl i’w gytundeb gyda Crystal Palace ddod i ben.

Y disgwyl yw y bydd Gabbidon yn chwarae yn ogystal â hyfforddi yn ei gyfnod diweddaraf gyda’r clwb, ble chwaraeodd 219 o weithiau rhwng 2000 a 2005.

Mae’r hen ben wedi ennill 49 cap dros Gymru yn ystod ei yrfa, ond ni chafodd ei gynnwys yng ngharfan ddiweddaraf Chris Coleman ar gyfer y gêm yn Andorra.

Cafodd ei ryddhau gan Palace yn yr haf ar ôl dwy flynedd yno, ac mae hefyd wedi chwarae i QPR, West Ham a West Brom.

Fe allai Caerdydd hefyd arwyddo’r amddiffynnwr Bruno Manga o FC Lorient yn Ffrainc cyn diwedd y dydd, gydag adroddiadau bod y ddau glwb wedi cytuno ar ffi o tua £5m.

Byddai hynny’n golygu fod digonedd o amddiffynwyr canol gan Ole Gunnar Solskjaer yn ei garfan, gan ganiatáu Mark Hudson i symud i Fulham.