Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r ymosodwr ifanc Modou Barrow o glwb Ostersunds FK yn Sweden.
Dyw’r clwb heb gadarnhau beth oedd y ffi am y llanc 21 oed, ond mae wedi arwyddo cytundeb yn seiliedig ar berfformiadau ac fe fydd yn ymuno â charfan dan-21 y clwb.
Fe anwyd Barrow yn Gambia ond symudodd i Sweden pan yn blentyn, a llynedd fe sgoriodd ddeg gôl mewn 19 gêm i Ostersunds.
“Rwyf wrth fy modd o fod yma,” meddai’r ymosodwr wrth wefan y clwb. “Alla’i ddim aros i ddechrau a cheisio gwella bob dydd wrth ymarfer a sgorio goliau.
“Rwy’n hoff o’r ffordd mae Abertawe’n chwarae pêl-droed, mae’n fy atgoffa o sut roeddwn i’n arfer chwarae adref. Rwyf wedi gweld llawer o’u gemau ar y teledu ac fe wnaeth hynny argraff arnaf.
“Maen nhw’n hoffi rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc a gobeithio y gallaf ddatblygu yma.”
Mae Garry Monk wedi dweud ei fod yn ceisio arwyddo asgellwr dde a chefnwr chwith cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau heddiw, gyda sôn ei fod yn gobeithio arwyddo Andre Ayew o Marseille.
Mae disgwyl hefyd i’r chwaraewr canol cae Jose Canas adael Stadiwm Liberty am Espanyol cyn diwedd y dydd.
Ond dyw hi ddim yn edrych yn debygol y bydd unrhyw un yn prynu ymosodwr yr Elyrch, Wilfried Bony.