Emyr Huws - Seren yr Wythnos
Penwythnos digon tawel oedd hi i’r Cymry gyda’u clybiau yn Lloegr y penwythnos hwn – ond efallai mai penwythnos i’w anghofio oedd hi i Gareth Bale draw yn Sbaen.
Gyda Real Madrid ar y blaen o 2-0 yn erbyn Real Sociedad ar ôl deng munud yn unig, a Bale yn rhwydo’r ail, roedd Los Blancos yn edrych yn ddigon cyfforddus ac ar eu ffordd y fuddugoliaeth arall.
Ond yna fe syfrdanodd Sociedad bawb wrth sgorio pedair heb ymateb, dwy cyn yr egwyl a dwy yn yr ail hanner, ac anfon Bale a’i dîm adref mewn sioc.
Fe fyddai llawer o gefnogwyr Abertawe wedi bod mewn sioc petai chi wedi dweud wrthyn nhw y byddai eu tîm ar frig yr Uwch Gynghrair ar ôl tair gêm.
Ond dyna’n union ble’r oedden nhw ar ôl i Ashley Williams a Neil Taylor chwarae’u rhan mewn buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 dros Burnley – hynny yw, cyn i Chelsea ennill oriau’n ddiweddarach i ail-gipio’r safle cyntaf.
Fe barhaodd dechrau simsan Arsenal i’r tymor wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yng Nghaerlŷr, gydag Aaron Ramsey yn fwy tawel nag arfer ond Andy King yn ddigon prysur yng nghanol cae i’r tîm cartref.
Fe enillodd Joe Allen gic o’r smotyn ar gyfer ail gôl Lerpwl wrth iddyn nhw drechu Spurs yn gyfforddus o 3-0, ond roedd o wedi cael ei eilyddio erbyn i Ben Davies wneud ymddangosiad hwyr dros y gwrthwynebwyr.
Y Bencampwriaeth
Cododd Wolves i drydydd yn y Bencampwriaeth yn eu tymor cyntaf yn ôl gyda buddugoliaeth o 3-1 dros Blackburn, wrth i Lee Evans a Dave Edwards serennu eto i’r tîm cartref yn erbyn criw Adam Henley.
Serennodd Emyr Huws yng nghanol cae i Wigan wrth iddyn nhw drechu Birmingham, y tîm ble bu Huws ar fenthyg y tymor diwethaf, yn gyfforddus 4-0. Creodd Huws un gôl yn ogystal â chyfleoedd eraill y gallai Wigan fod wedi gallu manteisio arnynt yn erbyn tîm anffodus David Cotterill.
Daeth Simon Church oddi ar y fainc i greu gôl a chipio pwynt i Charlton i ffwrdd yn Brighton. Fe orffennodd y gêm yn 2-2, gydag Andrew Crofts yn gadael y maes ar yr egwyl i’r tîm cartref a Rhoys Wiggins yn chwarae gêm lawn i’r ymwelwyr.
Cipiodd Reading fuddugoliaeth o 1-0 yn Middlesbrough gyda Chris Gunter a Jake Taylor yn y tîm – mae Taylor newydd gymryd lle Hal Robson-Kanu, a fethodd y gêm oherwydd anaf, yng ngharfan Cymru.
Yn anffodus colli oedd hanes Joel Lynch, wrth i amddiffyn Huddersfield ildio pedair yn Watford, a hefyd Craig Davies â Bolton.
Yn yr Alban fe chwaraeodd gipiodd Celtic ac Adam Matthews bwynt i ffwrdd yn Dundee, oedd â Kyle Letheren yn y gôl, gydag Ash Taylor hefyd yn chwarae dros Aberdeen.
Rhwydodd y Cymro ifanc Tom Bradshaw i Walsall wrth iddyn nhw gipio pwynt yn Scunthorpe yng Nghynghrair Un, ac yng ngweddill y gynghrair fe chwaraeodd Lewin Nyatanga, Gwion Edwards, Joe Walsh, Josh Pritchard, Jake Cassidy a James Wilson.
Seren yr wythnos: Emyr Huws – gêm wych i Wigan yng nghanol cae. Gydag amheuon dros ffitrwydd Ledley, a fydd Huws yn dechrau yn Andorra?
Siom yr wythnos: Paul Dummett – colli’i le i Haidara yn nhîm Newcastle (ond wedyn eu gweld nhw’n ildio tair).