Stadiwm Cenedlaethol Andorra yn 2007
Mae disgwyl i FIFA gadarnhau o fewn 24 awr a fydd y gêm ragbrofol rhwng Andorra a Chymru ar 9 Medi’n cael ei chwarae ar gae plastig.
Fel rhan o waith adnewyddu diweddar i Stadiwm Genedlaethol Andorra fe osodwyd cae artiffisial 3G newydd – ond yr wythnos diwethaf fe ddywedodd yr awdurdodau pêl-droed nad oedden nhw’n hapus â safon y cae.
Mae Andorra wedi bod yn ceisio gwneud gwelliannau i’r cae dros y penwythnos, ac fe fydd FIFA’n ail-archwilio’r arwyneb heddiw i benderfynu a chaiff y gêm ei chwarae yno.
Mae disgwyl penderfyniad erbyn bore fory ynglŷn â safon y cae, ac fe allai’r gêm gael ei symud i Sbaen ar fyr rybudd pe na bai stadiwm Andorra’n addas.
“Mae UEFA’n credu y gall y gêm gael ei chwarae yn y stadiwm os yw’r gwaith angenrheidiol wedi’i wneud dros y penwythnos,” meddai datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn y pedwar awr ar hugain nesaf.
“Hoffai CBDC ddiolch i’r holl gefnogwyr sydd yn gwneud y siwrne i Andorra’r penwythnos nesaf am eu hamynedd.”
Trafferth i deithwyr
Mae disgwyl i dros fil o gefnogwyr Cymru deithio i’r wlad fechan sydd rhwng Ffrainc a Sbaen ar gyfer y gêm.
Pe na bai stadiwm Andorra’n addas, mae’n debygol y byddai’r ornest yn cael ei symud i Barcelona yn Sbaen, ble mae llawer o gefnogwyr Cymru’n bwriadu teithio beth bynnag.
Fodd bynnag, fe fyddai’n peri trafferth i’r rheiny sydd wedi trefnu i aros yn Andorra, neu’r rheiny oedd wedi bwriadu teithio o Toulouse, dinas yn Ffrainc sydd hefyd yn agos i Andorra.