Bashar Assad
Mae gwrthryfelwyr yn Syria wedi gwrthdaro a’r fyddin yn Golan Heights, y man lle cafodd swyddogion heddwch eu herwgipio gan filwyr al-Qaida yr wythnos diwethaf.

Bu’r ymladd yn bennaf yn nhref Hamidiyeh yn ardal Quneitra, yn ôl Arsyllfa Prydain yn Syria ar gyfer Hawliau Dynol.

Mae asiantaethau newyddion yn y wlad yn dweud bod y fyddin wedi lladd “sawl terfysgwr” ac wedi dinistrio rhai o’u harfau. Mae’r llywodraeth yn cyfeirio at y bobol sy’n ceisio disodli’r Arlywydd Bashar Assad fel ‘terfysgwyr’.

Mae gwrthdaro ffyrnig wedi bod yn yr ardal ers i filwyr al-Qaida yn Syria, y Nusra Front, herwgipio 45 o swyddogion heddwch o Fiji a dau grŵp o bobol o’r Philipinas yr wythnos diwethaf.

Fe lwyddodd y gwystlon o’r Philipinas i ddianc dros y penwythnos ond mae milwyr al-Qaida yn parhau i gaethiwo’r swyddogion o Fiji.