Mae Heddlu Gwent yn rhybuddio gyrwyr i baratoi am oedi mawr ar y ffyrdd wrth i arweinwyr byd ddechrau gwneud eu ffordd i Gasnewydd ar gyfer Uwch-gynhadledd NATO.

Ni fydd traffordd yr M4 yn cau ond mae’r heddlu yn disgwyl y bydd trafferthion traffig ger Gwesty’r Celtic Manor, canol Caerdydd ac ar y ffyrdd rhwng y ddau leoliad.

Credir y bydd y tagfeydd gwaethaf i’w gweld yn oriau brys nos Iau a bore Gwener.

Yn ystod y gynhadledd, sy’n cychwyn ddydd Iau, bydd rhannau o ddwy lon yng Nghasnewydd, Ffordd Catsash a Ffordd Bulmore, ar gau tra bydd bob llwybr troed sy’n mynd yn agos at Westy’r Celtic Manor hefyd yn cael eu cau i’r cyhoedd.

Mae gyrwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ddefnyddio’r cyfleusterau Parcio a Theithio yn Lecwydd neu Pentwyn, neu adael amser ychwanegol ar gyfer eu siwrne.

Paratoi

Bydd y gynhadledd ddeuddydd yn dechrau yn swyddogol ddydd Iau lle bydd tua 150 o arweinwyr byd, gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, yn dod i Gymru am y tro cyntaf.

Disgwylir i tua 9,500 o blismyn fod ar ddyletswydd ac mae Heddlu Gwent wedi dweud y bydd plismyn arfog hefyd yn gwarchod y Celtic Manor.

Yng Nghaerdydd ac ar hyd yr M4 mae tua 13 milltir o ffensys wedi cael eu codi o amgylch safleoedd strategol fel Parc Biwt, canol y ddinas ac ardal y Bae.

Mae hefyd disgwyl y bydd protestiadau yn cael eu cynnal i ddangos gwrthwynebiad i’r sefydliad milwrol, NATO.