David Phillips
Mae disgwyl i gynghorydd a gafodd ei ddiswyddo o gabinet Cyngor Abertawe ddod yn arweinydd newydd yr awdurdod ar ôl cael ei ethol i olynu’r arweinydd a oedd wedi ei ddiswyddo.

Cafodd y Cynghorydd Rob Stewart, yr aelod cabinet a oedd yn gyfrifol am gyllid, ei ddiswyddo gan yr arweinydd David Phillips fis diwethaf. Roedd hefyd wedi diswyddo’r aelod cabinet a oedd yn gyfrifol am addysg a hyfforddiant, Will Evans.

Ond yn ddiweddarach fe gyhoeddodd David Phillips yn annisgwyl ei fod yn camu o’i swydd fel arweinydd er mwyn “canolbwyntio ar hybu proffil rhanbarthol a cenedlaethol Abertawe.”

Roedd ’na honiadau ei fod wedi colli cefnogaeth o fewn y Grŵp Llafur.

Bu’r Grŵp Llafur yn cynnal cyfarfod nos Lun ac fe benderfynwyd ethol y Cynghorydd Rob Stewart fel eu harweinydd newydd.

Ar ôl cael ei ethol dywedodd y Cyngh Stewart: “Mae’n fraint fawr cael y cyfle yma. Rwy’n hynod ddiolchgar am yr hyder sydd wedi cael ei ddangos ynof i gan gymaint o fy nghyd-weithwyr.

“Nid yw newid mewn arweinyddiaeth yn golygu newid trywydd ond mae’n golygu ffocws ychwanegol ar gyflawni gwasanaethau.

“Rwy’n bwriadu dweud rhagor ynglŷn â’r penderfyniadau anodd sydd eu hangen ar wariant yn yr wythnosau nesaf. Ond rwy’n credu y dylai’r penderfyniadau yma adlewyrchu blaenoriaethau’r cymunedau a wnaeth ein hethol ni.”

Ychwanegodd y byddai’n cadw ei bortffolio cyllid yn ei rôl newydd fel arweinydd.