Ashya King
Mae perthnasau’r bachgen 5 oed, sy’n dioddef o ganser yr ymennydd, Ashya King, wedi galw am ryddhau ei rieni sy’n cael eu cadw gan yr heddlu yn Sbaen.

Fe ddyfarnodd barnwr yn Sbaen ddoe y dylai Brett a Naghmeh King gael eu cadw am 72 awr tra bod y llys yn ystyried cais i’w hanfon yn ôl i Brydain.

Cafodd y cwpl eu harestio yn Sbaen ar ôl iddyn nhw fynd ag Ashya o ysbyty yn Southampton heb ganiatâd meddygon.

Mae’n debyg eu bod nhw wedi bod yn anhapus gyda’r driniaeth yr oedd yn ei gael gan y Gwasanaeth Iechyd ac am iddo gael triniaeth arbenigol sydd ddim ar gael yn y DU.

Dywedodd y cwpl wrth y barnwr yn Madrid ddoe nad oedden nhw eisiau dychwelyd i’r DU.