Gallai bron i 14,000 o bobl ifanc elwa o “sicrwydd swydd” y Blaid Lafur os fydd pobl yr Alban yn pleidleisio i aros yn rhan o’r DU, yn ôl Aelod Seneddol.

Mae’r AS Llafur, Margaret Curran, yn cyferbynnu’r swyddi fydd ar gael dan addewid Llafur gyda’r un filiwn o swyddi mae hi’n dweud fydd mewn perygl petai’r wlad yn ennill annibyniaeth.

Mae disgwyl iddi wneud y cyhoeddiad yn ystod ymweliad ag Academi Bragdy a Hyfforddiant Tennent yn Glasgow heddiw.

Bydd yn dweud y bydd rhai o’r 3,615 o bobl ifanc ledled yr Alban sydd wedi bod allan o waith am flwyddyn neu’n fwy yn cael cynnig swyddi o dan gynllun Llafur, gan gynnwys dros 500 yn Glasgow.

Bydd cynllun Llafur hefyd yn gweld bron i 14,000 o swyddi’n cael eu sicrhau i bobl dros 25 oed yn yr Alban sydd wedi bod allan o waith am ddwy flynedd neu fwy.

Meddai Margaret Curran: “Mae’r DU yn rhoi rhagor o gyfleoedd i’n pobl ifanc.

“Mae tua miliwn o swyddi yn yr Alban yn dibynnu ar gwmnïau sydd wedi’u lleoli mewn mannau eraill yn y DU ac mae llawer mwy sy’n dibynnu ar fasnach gyda Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

“Rydym am weld Alban gref yn cael ei chefnogi gan Deyrnas Unedig gref. Mae bod yn rhan o’r DU yn golygu y gallwn rannu ein hadnoddau ar draws y wlad.”

Ond meddai Aelod Seneddol Ewropeaidd yr SNP, Kenneth Gibson: “Byddai pleidlais Ie yn cyflwyno’r holl bwerau economaidd mae eu hangen arnom ni i greu mwy o swyddi a chyfleoedd ac i wneud y gorau o gyfoeth mawr yr Alban.”