Mae ’na siom ar Ynys Môn y bore ma yn dilyn y cyhoeddiad na fydd cynlluniau ar gyfer prosiect i ddefnyddio ynni’r llanw yn mynd yn ei flaen.
Fe gyhoeddodd cwmni Siemens a Marine Current Turbines ddoe na fyddai’n parhau gyda’r cynllun.
Y bwriad oedd adeiladu Fferm Lanw ar Ynysoedd y Moelrhoniaid yn Ynys Môn a fyddai wedi bod yn werth miliynau o bunnoedd.
Mae Marine Current Turbines yn cael ei ystyried yn un o’r arweinwyr yn natblygiad tyrbinau sy’n defnyddio ynni’r llanw i gynhyrchu trydan.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni y byddai’n “parhau i adolygu ein strategaeth ac mae ein trafodaethau gyda’n cyflenwyr a’n budd-ddeiliaid yn parhau ynglŷn â chyfleoedd eraill.
“Rydym yn dal i gredu y bydd ynni’r llanw yn chwarae rhan bwysig yn y dyfodol.”
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Ieuan Williams wedi mynegi ei siom ond dywedodd ei fod yn obeithiol bod modd parhau gyda chynlluniau ynni yn y dyfodol.
Mae’r AC lleol, Rhun ap Iorwerth ac Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen hefyd wedi dweud eu bod yn “siomedig iawn” o glywed y newyddion.
Potensial
Wrth siarad ar y Post Cyntaf bore ma, dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth:
“Mae’n newyddion siomedig. Mi roedd o’n gynllun cyffrous ynddo’i hun ac yn rhywbeth fyddai wedi agor y drws ar gyfer cynlluniau tebyg, a bod yn ffocws ar gyfer datblygu’r diwydiant ynni yma yng Nghymru.
“Ond mae’r cynllun yma dal yn fyw, mae’n rhaid pwysleisio hynny. Mae datblygiad ynni o’r môr yn mynd i fod yn rhywbeth sy’n digwydd ar Ynys Môn.
“Mae’n rhaid sicrhau ein bod yn gallu mynd yn ôl ar y trywydd iawn.
“Da ni’n gwybod bod gennym ni botensial ynni ym Môn ac yng Nghymru…ond be dw i ddim eisiau ei golli ydy ein lle ni yn y ras honno. “
Atebion
Ychwanegodd Albert Owen, Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, sydd hefyd yn aelod o bwyllgor ynni San Steffan, ei fod wedi trefnu i gwrdd â chwmnïau Siemens a Marine Current Turbines i drafod eu penderfyniad i dynnu nôl o’r cynllun:
“Dwi’n ofnadwy o siomedig bod Siemens a Marine Current Turbines wedi tynnu allan o’r cynllun yma. Maen nhw wedi cael lot o gefnogaeth gan Gaerdydd a San Steffan.
“Dw i eisiau iddyn nhw esbonio pam eu bod nhw wedi tynnu allan. Da ni eisiau ateb i’n cwestiynau, dyw hi ddim yn glir.”