Mae pobol ifanc rhwng 18-30 oed wedi bod yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw, i drafod eu syniadau a’u gweledigaeth mewn cynhadledd ddeuddydd am ddyfodol y Deyrnas Gyfunol.
Ychydig dros bythefnos cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban, mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a DG Undeb sy’n Newid – Ein Dyfodol.
Bydd yr Arglwydd Jeremy Purvis, Cadeirydd Grŵp San Steffan ar Ddatganoli, yn siarad yn ogystal â sesiynau eraill yn cael eu harwain gan academyddion yn trafod lles, arian a chyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol.
Bydd y trafodaethau yn cael eu cofnodi a’u cyhoeddi mewn adroddiad sy’n cael ei lansio yn yr hydref. Y bwriad yw y bydd yr adroddiad yn cyfrannu at unrhyw ddadl arall am ddyfodol yr undeb, ar ôl y refferendwm ar 18 Medi.
Syniadau
Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd cadeirydd Ein Dyfodol, Matt Francis: “Beth bynnag fydd canlyniad y refferendwm yn yr Alban, megis dechrau mae’r sgwrs am ddyfodol gwledydd eraill Prydain. Mae’n ddadl lle mae lleisiau pobol ifanc Prydain angen cael eu clywed yn glir.”
Ychwanegodd Dirprwy Lywydd y Cynulliad, David Melding: “Bydd penderfyniad hanesyddol yn cael ei gymryd gan bobol yr Alban a fydd yn cael effaith fawr ar Brydain gyfan.
“Ac yn y tymor hir, ein pobol ifanc fydd yn gorfod delio hefo canlyniad y penderfyniad hwnnw.
“Rwy’n edrych ymlaen at glywed rhai o syniadau arloesol sydd fel arfer yn cael eu cyflwyno gan bobol ifanc pan yr ydym yn cymryd yr amser i wrando arnyn nhw.”