Mae dyn 40 oed wedi trywanu tri phlentyn i farwolaeth ac wedi anafu chwe pherson arall mewn ysgol gynradd yn China, cyn neidio i’w farwolaeth o ffenest pedwerydd llawr.
Yn ôl swyddogion, digwyddodd yr ymosodiad yn Ysgol Gynradd Dongfang yn ninas Yunxi ac fe gafodd dau ddisgybl arall eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Honnir bod y dyn, sy’n cael ei adnabod o’i enw teuluol, Chan, yn rhiant i ddisgybl.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r digwyddiad.
Mae sawl ymosodiad wedi bod mewn ysgolion neu feithrinfeydd yn China yn y blynyddoedd diwethaf, gyda’r troseddwyr ran amlaf yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.
Yn 2012, cafodd tri phlentyn eu lladd ac 20 arall eu hanafu mewn meithrinfa yn ardal Shandong.