Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn 43 oed o Wynedd ar amheuaeth o dorri mewn i Glwb Rygbi Dolgellau.
Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn apêl i’r cyhoedd am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad ar 12 Awst.
Honnir bod rhywun wedi torri mewn i ystafelloedd newid y clwb rygbi ac wedi dwyn dwy waled oedd yn eiddo i chwaraewyr.
Mae’r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos ger bron llys ynadon lleol ar 19 Medi.