Gwrthryfelwyr sy'n gefnogol i Rwsia yn yr Wcrain
Mae gweinidog tramor Rwsia wedi annog y rheiny sy’n cynnal trafodaethau ynglŷn â sut i leddfu’r argyfwng yn yr Wcráin i wthio am gadoediad rhwng llywodraeth yr Wcráin a gwrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia.
Dywedodd y gweinidog tramor Sergey Lavrov na fydd Rwsia’n ymyrryd yn filwrol yn yr Wcrain, gan fynd yn groes i adroddiadau gan Lywodraeth yr Wcrain, Nato a gwledydd y Gorllewin bod Rwsia eisoes wedi anfon milwyr a thanciau ar draws y ffin yn ne ddwyrain yr Wcrain.
Roedd Sergey Lavrov yn annerch myfyrwyr ym Moscow.
“Rydyn ni’n galw am setliad heddychlon i’r argyfwng difrifol, y drasiedi yma,” meddai.
Ychwanegodd y dylai’r grŵp sy’n cynnal trafodaethau yn Minsk, Belarws, geisio dod i gytundeb ynglŷn â chadoediad diamod ar unwaith.
Fe ddechreuodd y gwrthdaro rhwng lluoedd llywodraeth yr Wcrain a’r gwrthryfelwyr yn Kiev ym mis Ebrill.