Mae Cyngor Caerdydd yn wynebu “heriau sylweddol” ac wedi methu mynd i’r afael â pherfformiad gwael mewn meysydd gwasanaeth allweddol oherwydd “trefniadau arwain a rheoli tameidiog”.
Dyma ddywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn adroddiad sy’n nodi pa mor dda y mae cynghorau Cymru yn darparu eu gwasanaethau, sef Adroddiad Gwella ac Asesiad Corfforaethol Blynyddol.
Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, mae ansefydlogrwydd gwleidyddol ac ansefydlogrwydd o safbwynt rheolwyr wedi golygu nad yw’r Cyngor wedi llwyddo i wella eu perfformiad ers y llynedd.
Ac er bod y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ar ôl sefydlu uwch dîm arwain newydd a nodi gwerth £50 miliwn o arbedion posibl, mae’r Archwilydd o’r farn bod nifer o “risgiau sylweddol” yn bodoli o fewn y sefydliad, gan gynnwys:
• diffyg cynlluniau manwl i ategu’r cynigion sy’n cael eu gwneud ar gyfer arbedion;
• nid yw prosesau i sicrhau llywodraethu da yn cael eu rhoi ar waith;
• mae prosesau gwneud penderfyniadau yn annigonol ac yn aneglur;
• mae cynlluniau cyflawni i lywio’r gwaith o wella gwasanaethau yn dal ar gam cynnar yn eu datblygiad; ac
• nid oes gwybodaeth hygyrch na phrydlon ar gael gan y Cyngor i’w alluogi i reoli perfformiad gwasanaethau yn effeithiol.
Man cychwyn
“Mae fy adroddiad yn rhoi darlun sy’n peri pryder, sef nad yw’r Cyngor yn gwneud digon i gynllunio ar gyfer y toriadau hyn yn ei gyllid nac yn mynd i’r afael â mannau gwan hirsefydlog yn ei wasanaethau,” meddai’r Archwilydd.
“Rwy’n gobeithio bydd yr adroddiad heddiw yn fan cychwyn er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn ac adeiladu ar brosesau a gweithdrefnau newydd y mae’r Cyngor yn dechrau eu rhoi ar waith.”
Argymhellion
Nid yw’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys unrhyw argymhellion statudol, ond mae’n gwneud dau gynnig er gwella, sef:
• bod y Cyngor yn sicrhau ei fod yn rhoi ei Gynllun Datblygu Sefydliadol ar waith er mwyn helpu i ddatrys y problemau a nodir yn yr adroddiad hwn; a
• bod yr Archwilydd Cyffredinol a’i staff yn cydweithio â’r Cyngor yn y cyfamser er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwbl ymwybodol o ba newidiadau allweddol y mae angen eu gwneud.
Bydd gweithgarwch y cyngor yn cael ei fonitro yn ystod y misoedd nesaf a bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnal archwiliad corfforaethol arall yn 2015, er mwyn ystyried a yw’r problemau a nodir yn yr adroddiad hwn wedi’u datrys yn foddhaol.