Edwina Hart
Fe fydd bron i 80 o swyddi yn cael eu creu yng Nghaerffili, wrth i gwmni byd-eang Innovation Group leoli pencadlys ariannol newydd yn y dref.

Cefnogaeth o £995,000 gan Lywodraeth Cymru sydd wedi sicrhau bod y prosiect yn dod i Gymru, ac mae hynny’n ychwanegol i fuddsoddiad o £1.6 miliwn gan Innovation Group.

Y bwriad yw creu 77 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys swyddi rheoli a goruchwylio.

Fe ddywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Innovation Property fod Cymru yn le “delfrydol” i sefydlu’r pencadlys newydd o ran y farchnad lafur.

Mae Innovation Group yn darparu gwasanaethau a meddalwedd ar gyfer y diwydiant yswiriant, y diwydiant fflyd, y diwydiant moduro a’r diwydiant eiddo ac yn cyflogi dros 2,800 o weithwyr proffesiynol.

‘Cyfraniad pwysig’

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Dw i’n hynod falch mai Cymru sydd wedi llwyddo i sicrhau’r buddsoddiad hwn ac mai yng Nghaerffili y bydd pencadlys yr adran newydd hon.

“Mae’n hwb pwysig arall i’r sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yng Nghymru – un o’n sectorau economaidd allweddol sy’n tyfu’n gyflym.

“Mae’r Innovation Group yn sefydliad o’r radd flaenaf sy’n gweithio ledled y byd, a bydd ei fuddsoddiad yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig i sector cryf sy’n ehangu’n gyflym yma. Bydd y buddsoddiad yn creu amrywiaeth eang o swyddi newydd a fydd yn talu’n dda, a bydd hefyd yn arwydd clir bod Cymru yn lleoliad gwych ar gyfer busnesau sydd am ehangu ac arallgyfeirio.”

‘Cyffrous’

Ac fe ddywedodd Paul Irvin, Rheolwr Gyfarwyddwr Innovation Property UK:
“Rydyn ni’n hynod falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu swyddfa newydd ar gyfer y fenter gyffrous hon, gan fanteisio ar y gweithlu medrus sydd ar gael yng Nghymru.

“Ar ôl cynnal adolygiad trylwyr o farchnad lafur y DU, gwelsom fod Cymru’n ddelfrydol ar ein cyfer ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu’r busnes a sicrhau ei fod yn tyfu.”