Ystafell Gyfarfod y Comisiwn Ewropeaidd
Wrth i’r helyntion waethygu yn nwyrain yr Wcrain, mae Llywydd Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd yn pwyso ar Rwsia i geisio ateb gwleidyddol a heddychlon i’r broblem.
Yn ôl Nato, mae Rwsia wedi anfon dros fil o filwyr i ddwyrain yr Wcrain, ond mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn gwadu hynny.
Mewn cynhadledd i’r wasg ar y cyd ag arlywydd yr Wcrain, Petro Poroshenko, dywedodd Manuel Barrosso, sydd ar fin gadael ei swydd fel Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, fod y sefyllfa’n ddifrifol iawn.
“Os bydd y gwrthdaro’n dal i waethygu, gallwn ddod at bwynt lle nad oes modd troi’n ôl,” meddai.
“Ni ddylai Rwsia danbrisio ewyllys a phenderfyniad yr Undeb Ewropeaidd i sefyll dros ei egwyddorion a’i werthoedd.”
Roedd yn siarad ar drothwy uwch-gynhadledd ym Mrwsel, lle mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron alw am sancsiynau llymach yn erbyn Rwsia.