Twr Meridian, Marina Abertawe (llun o wefan yr adeilad)
Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys yn Abertawe ar gyhuddiad yn ymwneud â chyrch arfog yn adeilad uchaf Cymru yn y ddinas.
Mae Linsday Coffey, o Ystradgynlais, wedi cael ei gyhuddo o fod ag arf tân yn ei feddiant gyda’r bwriad o achosi ofn trais a chaethiwo anghyfreithlon.
Cafodd yr heddlu eu galw i Dŵr Meridian ym Marina Abertawe ar 8 Awst yn dilyn adroddiadau bod dyn â dryll wedi cymryd gwystlon ym mwyty’r adeilad 29 llawr.
Cafodd Coffey, 38 oed, ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 8 Medi.