e-sigaret
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi rhybuddio y dylid gwahardd sigaréts electronig o fannau cyhoeddus dan do a rheoleiddio eu gwerthiant oherwydd pryderon iechyd.

Mae’r alwad yn cyd-fynd a bwriad Llywodraeth Cymru i wahardd e-sigarets mewn mannau cyhoeddus dan do, oherwydd pryderon y gallai danseilio’r gwaharddiad presennol ar ysmygu yn y llefydd hynny.

Yn yr adroddiad sy’n cael ei ryddhau heddiw, dywed arbenigwyr y WHO fod yr anwedd sy’n cael ei ryddhau o e-sigarets yn dal i beri risg i’r bobol sy’n sefyll yn agos i ddefnyddwyr, yn debyg i’r mwg sy’n cael ei ryddhau o sigaréts arferol.

Dywed hefyd bod angen atal gwerthu e-sigarets i blant dan oed yn ogystal ag atal gwerthwyr rhag marchnata’r e-sigarets fel arf i roi’r gorau i ysmygu, nes bod tystiolaeth i gefnogi’r honiad.

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yng nghynhadledd y WHO ym Moscow ym mis Hydref.

Yn groes i ddadleuon y sefydliad, mae adroddiadau gan Brifysgol Coleg Llundain yn awgrymu bod e-sigarets yn gallu bod yn fwy effeithiol na dulliau eraill o annog pobol i roi’r gorau i ysmygu.