Mae gwefan gwerthu tai Zoopla wedi cyhoeddi mae stryd ym Mhenylan ar gyrion Caerdydd yw’r stryd ddrytaf yng Nghymru i fyw arni.

Mae pris tŷ ar gyfartaledd ar Stryd Tŷ Gwyn yn gwerthu am £1,046,987 ac fe gafodd un tŷ ei werthu am £1.25miliwn yn 2007.

Mae’r prisiau wedi codi’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ar ôl i dŷ werthu am £200,000 nol yn 1995.

Cyhoeddir yr arolwg ar ôl i’r Post Brenhinol gomisiynu arolwg arall i ganfod yr ardal cod post fwyaf dymunol i fyw ynddi yng Nghymru – a Brynteg, Ynys Môn ddaeth i’r brig.

Prydain

Bu i’r arolwg hefyd ddarganfod fod 12 stryd ym Mhrydain hefo prisiau tai cyfartalog o £10 miliwn a bod bob un ohonyn nhw yn Llundain.

Kensington Palace Gardens oedd y stryd ddrytaf lle mae pris tŷ tua £42.7 miliwn – sydd 162 gwaith yn fwy na phris tŷ ar gyfartaledd ym Mhrydain o £263,705.