Mae Arlywydd Liberia wedi diswyddo holl weinidogion y Cabinet ac uwch swyddogion eraill a oedd wedi herio ei gorchymyn i ddychwelyd i’r wlad wrth iddi geisio delio gyda’r argyfwng Ebola.

Daeth y cyhoeddiad mewn datganiad o swyddfa Ellen Johnson Sirleaf, ond ni ddywedodd faint o swyddogion na pha rai sydd wedi cael eu diswyddo.

Daeth y gorchymyn i ddychwelyd a pharhau yn Liberia rai wythnosau’n ôl ar ôl i’r wlad gyhoeddi stad o argyfwng.

Mae 1,400 o bobl wedi marw o Ebola yn Liberia, Sierra Leone, Guinea a Nigeria yng Ngorllewin Affrica.

Liberia sydd wedi dioddef waethaf ers i’r haint ledaenu, ac yno mae’r mesurau mwyaf llym mewn lle, gan gynnwys  ynysu cymdogaeth gyfan yn y brifddinas.

Yn ol Sefydliad Iechyd y Byd mae 240 o weithwyr iechyd wedi cael eu heintio gan Ebola – mae hanner ohonyn nhw wedi marw.