Mae ymladdwyr Islamic State wedi torri trwy linell amddiffynol mewn maes awyr yng ngogledd-ddwyrain Syria, gan feddiannu rhan ohono.
Fe ddechreuodd y grwp ar ei ymgyrch i feddiannu maes awyr Tabqa yr wythnos ddiwetha’. Mae rhyw 45km (25 milltir) o bencadlys y grwp eithafwyr yn ninas Raqqa.
Mae’r maes awyr yn un o’r mannau allweddol yn dactegol yn yr ardal, yn cynnwys nifer o sgwadronau o awyrennau, hofrenyddion, tanciau a phob math o arfau.
Bellach, mae’r eithafwyr Mwslimaidd yn rheoli rhan o’r maes awyr, tra bod yr ymladd yn parhau. Mae awyrennau llywodraeth Syria’n ymosod o’r awyr ar filwyr IS.
Mae beth bynnag 100 o filwyr Islamic State wedi marw yn y maes awyr hyd yma, ac mae 300 wedi’u hanafu yn yr ymladd.