Mae’r awdurdodau yn yr Eidal wedi dod o hyd i 18 o gyrff mewn cwch yn llawn mewnfudwyr.
Roedd y cwch wedi docio yn Pozzallo yn ne Sisili, gydag 266 o fewnfudwyr ar ei fwrdd. Roedd yno hefyd 18 o gyrff marw.
Mae gweinidog cartref yr Eidal, Angelino Alfano, wedi galw eto ar i’r Gymuned Ewropeaidd weithredu er mwyn ysgafnhau’r baich ar ei wlad ef.
Mae’r Eidal yn gwario 9.5 miliwn ewro (£7.5m) y mis yn patrolio’r môr rhag mewnfudwyr. Os na fydd Ewrop yn helpu, meddai, fe fydd yn rhaid i’r Eidal “gymryd ei chamau ei hunan” i reoli’r sefyllfa.