Mae beth bynnag 30 o bobol wedi’u lladd mewn ffrwydriadau yn ninasoedd Baghdad a Kirkuk yn Irac.
Fe ddaeth y ffrwydriadau heddiw wrth i’r ymchwilio barhau i’r ymosodiad ar fosg Sunni ddoe.
Fe ffrwydrodd tair bom yn ninas yr olew, Kirkuk, dinas sy’n destun anghydfod hir rhwng llywodraeth Baghdad a llywodraeth ranbarthol y Cwrdiaid. Fe laddwyd 19 o bobol yn yr ymosodiad, ac fe anafwyd 12.
Yn Baghdad, fe yrrodd hunanfomiwr ei gar yn llawn ffrwydron i bencadlys gwasanaethau diogelwr Irac yn ardal Karrada. Fe laddwyd 6 o bobol, ac fe gafodd 24 o bobol eraill eu hanafu.