Mae awyrennau Israel wedi tanio at floc o fflatiau 12 llawr yn Ninas Gaza, gan ddymchwel yr adeilad ac anfon pelen o dân i’r awyr.

Mae beth bynnag 22 o bobol wedi’u lladd, yn cynnwys 11 o blant.

Mae Israel wedi taro Gaza rhyw 5,000 o weithiau yn y rhyfel saith wythnos yn erbyn Hamas, ond dyma’r tro cynta’ i adeilad cyfan gael ei ddymchwel. Roedd adeiladau gerllaw yn ysgwyd o ganlyniad i’r ffrwydriad.

Yn ôl heddlu yn Gaza, roedd Israel wedi tanio taflegryn fel rhybudd at do’r adeilad cyn iddi dywyllu neithiwr, cyn bod dau daflegryn arall yn ffrwydro’r lle.

Ddoe, roedd Gweinyddiaeth Dramor yr Aifft wedi bod yn annog y ddwy ochr i ddychwelyd at fwrdd y trafodaethau er mwyn ceisio cytuno ar gadoediad.