Mae Mecsico wedi gwrthod  honiadau gan wleidydd blaenllaw yn America, mai trwy Mecsico y mae ffwndamentalwyr Islamaidd yn cyrraedd yr Unol Ddaleithiau.

Mae’r honiad yn “abswrd”, meddai’r wlad.

Ond, yn ôl Llywodraethwr talaith Texas, Rick Perry, gwleidydd Gweriniaethol a allai fod yn y ras i fod yn Arlywydd yn 2016, “mae yna bosibilrwydd go iawn” mai trwy Mecsico y mae’r ffwndamentalwyr yn dod i America – a hynny dros ffin sydd ddim yn cael ei phlismona.

Does yna ddim “tystiolaeth go iawn”, meddai wedyn.

Ond mae ysgrifennydd tramor Mecsico, Jose Antonio Meade, wedi taro’n ôl.

“Mae honiadau Mr Perry wedi’u seilio ar gredoau, sylwebaeth a dadansoddi di-dail ac abswrd”.