Mae beth bynnag 11 o bobol wedi’u lladd pan ffrwydrodd hunanfomiwr ddyfais o flaen adeilad y Weinyddiaeth Gartref ym mhrifddinas Irac.

Yn ôl tystiolaeth plismon, fe yrrodd yr hunanfomiwr ei gar yn llawn ffrwydron i mewn i giât pencadlys y gwasanaethau diogelwch yn ardal Karrada yn Baghdad, gan ladd chwech o bobol gyffredin a phump o aelodau staff.

Mae 24 o bobol eraill wedi’u hanafu yn y digwyddiad.