Mae trigolion lleol wedi dod o hyd i fom heb ei ffrwydro ym Mharc Natur Mynydd Cynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe ddaeth Dean Smith a James Clark o hyd i’r bom, sy’n dyddio o gyfnod yr Ail Ryfel Byd (1939-45) tra’r oedden nhw allan yn cerdded fore heddiw.
Mae Heddlu De Cymru bellach yn rhwystro pobol rhag cerdded yn agos i’r safle, ac mae’r Unedb Diffodd Bomiau wedi’i galw.