Mae Iran wedi agor gwaith sy’n troi’r deunydd Wraniwm yn danwydd ar gyfer adweithyddion niwclear. Fe ddaeth y datganiad trwy asiantaeth newyddion swyddogol y wlad heddiw.
Meddai’r datganiad: “Mae’r gwaith newydd hwn yn rhan o’r cytundeb rhwng Iran a rheolwyr y byd ar raglen niwclear y wlad.”
Fe fydd y gwaith newydd yn trosi wranium hecsafflworid yn wraniwm diocsid. Mae’r naill yn gallu cael ei ddefnyddio i wneud arfau niwclear, a’r llall yn dda i ddim ond i’w ddefnyddio mewn adweithyddion niwclear.
Mae’r trafodaethau rhwng Iran ac arweinwyr byd yn parhau.