John Lennon, a laddwyd yn 40 oed
Mae bwrdd parol yn yr Unol Daleithiau wedi gwrthod cais arall gan lofrudd John Lennon i gael ei ryddhau o’r carchar.
Dyma’r wythfed tro i Mark David Chapman, 59, gael ei wrthod.
Mae’r awdurdodau yn Efrog Newydd wedi cadarnhau fod gwrandawiad wedi bod ddydd Mercher yr wythnos hon, a bod y cais Chapman wedi ei droi i lawr.
Fe gafodd John Lennon ei saethu’n farw o flaen yr adeilad lle’r oedd yn byw, ym mis Rhagfyr 1980. Roedd y cerddor, y canwr, a chyn-aelod o’r Beatles, yn 40 oed.
Fe blediodd Mark David Chapman yn euog i lofruddiaeth yn 1981, ac fe gafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd yng ngharchar.