Bangkok
Mae dyn busnes 24 oed o Japan, sy’n dad i 16 o fabis ac yn dymuno bod yn dad i fwy o fabis, yn destun ymchwiliad rhyngwladol.

Mae Interpol wedi lawnsio ymchwiliad i’r achos sydd wedi’i alw yng Ngwlad Thai yn “ffatri gwneud babis”.

Fe fu cyrch gan heddlu yn Bangkok yn gynharach eleni, pryd y daethon nhw o hyd i naw babi a naw nani yn byw mewn ychydig o stafelloedd diaddurn a di-ddodrefn. Roedd y stafelloedd hynny’n llawn dop o boteli, cadeiriau babi a napis.

Ers hynny, maen nhw wedi profi mai’r dyn busnes Mitsutoki Shigeta ydi tad y babis hynny – ynghyd a saith o fabis eraill.