Amgueddfa Cymru, Caerdydd
Mae disgwyl i staff Amgueddfa Cymru gerdded allan am 1 o’r gloch heddiw, a hynny oherwydd ffrae rhwng eu hundeb a’u cyflogwyr tros gyflogau a phensiynau.
Dyma’r trydydd penwythnos o weithredu diwydiannol gan aelodau’r undeb PCS (Public and Commercial Services).
Er bod yr undeb wedi dweud ei fod yn poeni am effaith y cerdded allan heddiw a fory ar ymwelwyr ar benwythnos Gwyl y Banc, mae’n dweud fod yn rhaid i’w aelodau weithredu er mwyn diogelu eu pensiwn a’u pae.
Mae Amgueddfa Cymru wedi mynegu “siom”, ac wedi ymddiheuro o flaen llaw i ymwelwyr.
Fe fydd y gweithredu’n effeithio ar bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru – yng Nghaerdydd, Sain Ffagan, Llanberis, Drefach Felindre, Brynmawr ac Abertawe – ar wahan i’r safle yng Nghaerleon.