Mae ymchwiliad ar y gweill wedi ymosodiad ar fosg Sunni yn Irac.

Fe laddwyd 64 o bobol yn y digwyddiad sydd hefyd wedi gwaethygu’r tensiwn rhwng carfannau crefyddol yn y wlad.

Mae disgwyl i adroddiad cynta’ ar y digwyddiad gael ei gyhoeddi ymhen deuddydd.

Dyw hi ddim yn glir eto p’un ai gwrthryfelwyr Shi-ite yntau’r grwp eithafol Sunni Islamic State oedd y tu ol i’r ymosodiad.